Tîm Talent

Pob wythnos bydd Ifan a'r tîm yn ymuno â chriw o blant o amgylch Cymru i'w helpu i greu digwyddiad anhygoel yn defnyddio eu talentau amrywiol.

Tîm Talent yn dod nôl - wyt TI angen ein help?

Tîm Tag ar Stwnsh

Oes gennych chi sioe, cyngerdd neu ddigwyddiad arbennig ar y gweill? Mae Tîm Talent yn dychwelyd i S4C ac yn barod i helpu!

Yn y gyfres gynta’ fe aeth y cyflwynydd Ifan Jones Evans a’r Tîm Talent – arbenigwyr o’r byd perfformio a thu hwnt – draw i ysgolion a chlybiau ym mhob cwr o’r wlad. O’r Barri i Wrecsam, Pen-y-bont i’r Wyddgrug, Aberystwyth i’r Rhondda. A’r nod? Ychwanegu sglein i sioeau blynyddol a chyngherddau o bob lliw a llun drwy rannu arbenigedd gyda pherfformwyr ifanc a thalentog gan sicrhau profiad bythgofiadwy i bawb fu’n cymryd rhan!

Yn helpu i drawsnewid y sioeau ysgol yma roedd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd a charismatig y byd perfformio, gan gynnwys Tara Bethan, Iwan John, Magi Dodd, Lauren Phillips, Al Lewis, Craig Ryder ac Anthony Evans – i gyd yn dysgu technegau newydd a rhannu tips gyda’r criw ifanc - ac yn codi’r safon!

Wedi’r floedd am help aeth Ifan a’r Tîm Talent ati i adeiladu setiau, trefnu coreograffi ar gyfer y dawnsfeydd, darparu hyfforddiant llais ac hyd yn oed creu gwisgoedd arbennig.

Dyma gyfle i roi eich ysgol neu eich clwb chi ar y map ac i arddangos eich doniau i’r genedl.

Felly os ydych chi’n paratoi ar gyfer sioe o unrhyw fath ac eisiau help llaw gan rhai o sêr mwyaf Cymru, cysylltwch â gruff@rondomedia.co.uk neu ffoniwch 02920 223456.