Sawl Seren Sy’ ‘Na?

Cystadleuaeth dalent newydd i bobl ifanc ydi Sawl Seren Sy’ ‘Na? ac fe fydd y perfformiad buddugol yn ennill £1000 i’w roi at hyfforddiant talent.

Perfformwyr ifanc yn disgleirio wrth i S4C gyfri Sawl Seren?

Sawl Seren?

Chwilio am sêr disglair y dyfodol fydd un o gyfresi newydd S4C, Sawl Seren Sy' 'Na? Wyt ti'n barod am sioe llawn adloniant, hwyl a thalent?

Gan ddechrau ar brynhawn Gwener, 18 Chwefror bydd Tara Bethan yn teithio Cymru yn chwilio am berfformwyr ifanc mwyaf talentog y wlad. Canu, dawnsio, actio, dweud jôcs, chwibanu a hyd yn oed gwneud hud a lledrith, bydd pob math o dalentau i'w gweld ar lwyfan Sawl Seren Sy' 'Na? Bydd y person gorau yn derbyn gwobr o £1,000 i dalu am hyfforddiant bellach.

Mae Tara Bethan bellach yn ennill ei phlwy ar lwyfannau enwog y West End, ond mae hi'n gwybod pa mor werthfawr yw cael cyfle i berfformio yn oedran ifanc.

"Mae pethau fel hyn yn ddechrau grêt ac yn fuan rwyt ti'n dod i sylweddoli os wyt ti eisiau mynd i fyd perfformio neu beidio. Os wyt ti yn penderfynu mai dyma beth wyt ti eisiau ei wneud yna mae cystadlu fel hyn yn ymarfer gwych i ti ac yn helpu i dy baratoi di ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n debyg i'r Eisteddfod yn yr agwedd hynny. Rydyn ni mor lwcus yng Nghymru i gael y cyfleoedd yma i berfformio o oed mor ifanc, rhy ifanc i fod yn nerfus bron," ychwanega Tara am ei phrofiadau o gystadlu mewn eisteddfodau pan yn blentyn.

Er mai canu a dawnsio disgo oedd ei harbenigedd hi, mae Tara'n edrych ymlaen at fwynhau talentau o bob math ar lwyfan Sawl Seren Sy' 'Na?

"Mi fydd yn ddiddorol gweld talentau 'chydig bach yn wahanol, yn ogystal â'r hyn rydyn ni wedi arfer ag o fel canu a dawnsio. Mae'n braf hefyd i bobl sydd ddim â'r talentau hynny i gael llwyfan i arddangos eu doniau," meddai.

Enillodd Tara enwogrwydd yn cystadlu ar raglen y BBC I'd Do Anything yn 2008. Mae hi'n gwybod yn iawn sut bydd cystadleuwyr Sawl Seren Sy' 'Na? yn teimlo wrth gamu i'r llwyfan o flaen y beirniaid, ac yn gallu uniaethu â'u siom neu orfoledd.

"Dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod y cystadleuwyr. Dwi'n gwybod sut beth ydy sefyll o flaen y beirniaid ar raglen deledu, ac yn gwybod nad dyna'r teimlad gorau yn y byd!"