Newid Byd
Wyt ti...
... yn 17-18 oed?
... am fynd tramor?
... am wneud gwahaniaeth?
... am NEWID BYD?
Mae'r ail gyfres o NEWID BYD ar S4C yn chwilio am 4 ohonoch chi!
Fe fyddai cyfle i chi wneud gwaith gwirfoddol pwysig mewn gwlad tramor am 3 wythnos yn ystod yr haf hwn. Adnewyddu ysgol, gweithio gyda phlant amddifad, plannu coed neu fonitro anifeiliaid prin.
Mae'r rhaglen yma yn gorffwys
Newid Byd
Mae cyfres newydd S4C, Newid Byd, am roi cyfle i 8 person ifanc rhwng 14-16 oed i ymweld â gwlad tramor am bythefnos i gyflawni gwaith gwirfoddol pwysig, dan ofal arweinydd profiadol.

Mae'r dyddiad cau wedi pasio am geisiadau i'r gyfres erbyn hyn, ond fe gei di gyfle yma i ddarllen am y gyfres, a'i gwylio ar Stwnsh yn yr Hydref.
Fe fydd y prosiectau penodol yn helpu'r bobl a/neu'r byd natur yn y rhan honno o'r byd, ac fe fydd yn cynnig her fythgofiadwy. Byddwn yn cydweithio gyda chwmni profiadol Camre Cymru/Outlook Expeditions sydd ag arbenigedd mewn trefnu ac arwain teithiau o'r math yma i bobl ifanc 11 - 18 oed.
Bydd Newid Byd yn mynd i ddwy wlad yn benodol ac fe fydd 4 yn cael eu dewis i fynd i un wlad neu'r llall. Bydd 2 arall yn cael eu dewis i fod ar y rhestr wrthgefn.

Rydym ni'n chwilio am 8 o bobl ifanc hyderus a byrlymus sy'n gallu mynegu eu teimladau a'u hargraffiadau. Byddan nhw'n gallu cydweithio'n dda ag eraill, yn gallu cael hwyl a chwerthin ar un llaw ond yn ddigon aeddfed i sylweddoli sensitifrwydd rhai sefyllfaoedd ac ymateb yn synhwyrol. Mae'n bosib y bydd yr unigolion yn gwirfoddoli gartref, yn codi arian i elusennau neu'n cyfrannu mewn rhyw ffordd at eu cymuned leol neu yn eu hysgolion.
