Cynnwys wedi'i dagio â "ennill dy deulu"

Tôn i dy Ffôn! Swsio, Cwtsio, Ditsio

Swsio, Cwtsio, Ditsio

Mae Ennill Dy Deulu nôl ar dy sgrîn!

Dyma dy gyfle i gael tôn ffôn y gem boblogaidd "Swsio Cwtsio Ditsio" am ddim i dy ffôn symudol. Clicia ar y llun i lwytho MP3 o’r gân, yna gelli di ei roi ar dy ffôn yn hawdd!

'Does dim cost i'r MP3 yma, a gelli di ei lwytho dy gyfrifiadur mor aml ag wyt ti eisiau!

Mae'r ffeil MP3 yn cael ei lwytho fel ffolder ZIP i dy gyfrifiadur.

Mae Ennill dy Deulu i'w weld ar dy sgrin bob dydd yn ystod y gwyliau Pasg... mwynha!

Ennill dy Deulu!

Llwythi o wobrau a stwnsho, dere i ymuno gyda ni dros y gwyliau!

fb

Rheolau Ennill Dy Deulu

RHEOLAU

Rheolau Ennill Dy Deulu


Y wobr yw talebau ‘Love2shop’ werth £75.
1. Am rhestr llawn o ble gall y talebau cael ei wario ewch i love2shop.cop.uk
2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ag eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan gwmni Boomerang neu S4C, eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig a'r gystadleuaeth.
3. Rhaid i'r ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
4. Gallwch gystadlu mor aml ag y dymunwch, ond dim ond unwaith y gallwch ennill y wobr. Bydd y gystadleuaeth yn agor oddeutu 17.30 yh.
5. Dewisir yr enillydd ar hap. Cyhoeddir enw'r enillydd ar raglen
6. Ennill Dy Deulu wedi'r amser cau o oddeutu 18:15y h.
7. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.
8. Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
9. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
10. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gynigion sydd yn ein cyrraedd wedi amser cau'r gystadleuaeth.

Wyt TI eisiau bod yn rhan o Ennill dy Deulu?

Wyt TI eisiau bod yn rhan o Ennill dy Deulu?

Bydd digon o chwerthin, dwli a stwnshio wrth i ti gystadlu mewn cyfres o sialensau er mwyn ennill yr aelod o’r teulu yn ôl a chael siawns i ennill gwobrau gwych hefyd!

Bydd Ennill dy Deulu nôl o'r 9fed-13eg o Ebrill. Bydd Anni, Tudur a Vernon Cei yn dod i’ch cartref chi, a fe allech chi ennill gwobr WYCH!

Os oes gyda ti ddiddordeb mewn bod ar Ennill dy Deulu, ebostia ni yma ar

Stwnsh@s4c.co.uk

gyda Ennill dy Deulu fel y pwnc!