Cynnwys wedi'i dagio â "cystadleuaeth"

Cymryd Rhan yn y gyfres nesaf o "Hip Neu Sgip?"

Wyt ti erioed wedi ffansïo dy hun fel tipyn o gynllunydd?

Hoffet ti daflu paent ar hyd 'stafell wely dy ffrind gorau?

Os felly, mae Hip neu Sgip? yn berffaith i tii!

Dewisa ffrind / brawd / chwaer / cefnder sydd yn haeddu stafell newydd sbon, ac fe ddaw tîm arbenigol Hip neu Sgip? draw i roi steil i 'stafell stêl!

**Cofiwch ofyn caniatad eich rhieni chi A rhieni eich ffrind cyn gwneud**

Cystadleuaeth Fawr Clic Slic

Clic Slic

Gwobr FAWR Clic Slic!

Os nad wyt ti wedi dod i frig sgorfwrdd Clic Slic eto, paid digalonni!

Mae gwobr wych ar gael, a mae cyfle i BAWB sydd wedi chwarae Clic Slic unrhywbryd yn ystod y gyfres ei ennill!

Felly os wyt ti eisiau ennill yr Xbox 360 yma, logia mewn i wefan Stwnsh a chwarae Clic Slic yn ystod Stwnsh Sadwrn a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar Ebrill 21ain 2012!

>> Chwarae’r gêm! <<

Rheolau Cystadleuaeth Xbox 360 Clic Slic

RHEOLAU
Y wobr yw XBOX 360
1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ag eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan gwmni Boomerang neu S4C, eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig a'r gystadleuaeth.
2. Rhaid i'r ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
3. Gallwch chwarae Clic Slic mor aml ag y dymunwch, ond dim ond unwaith y gallwch ennill gwobr.
4. Bydd enwau pawb sydd wedi cofrestru a logio mewn i wefan Stwnsh i chwarae gêm Clic Slic yn y gyfres bresennol (2012) yn mynd i’r het i gael eu dewis i ennill y wobr.
5. Mae Clic Slic ar gael i’w chwarae ar amser penodedig o fewn amserlen rhaglen Stwnsh Sadwrn.
6. Dewisir yr enillydd ar hap. Cyhoeddir enw'r enillydd ar raglen Stwnsh Sadwrn wedi'r amser cau o oddeutu 10:30 y.b.ar Ebrill 21 2012.
7. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.
8. Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
9. Mewn unrhyw anghydfod, mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
10. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gynigion sydd yn ein cyrraedd wedi amser cau'r gystadleuaeth.
11. Ni all hyrwyddwyr y gêm (Boomerang+ CCC / S4C) fod yn gyfrifol am unrhyw nam ar gysylltiad lleol y defnyddiwr wrth iddo/iddi chwarae’r gêm.
12. Nid yw’r amser y caiff pob chwaraewr i ateb pob cwestiwn sef 10 eiliad yn achos Clic Slic , yn ddibynnol ar gyflymder cysylltiad gwe lleol.